Yr Hwylfan
Mae’r enw yn dweud y cyfan – wel bron iawn. Dyma ganolfan chwarae antur dan do mwyaf gogledd-orllewin Cymru, gydag amrywiaeth helaeth o atyniadau a gweithgareddau i gyd dan un to, llithrennau uchel, y pyllau peli, y ddrysfa, y tiwbiau, y rhwydi dringo, ardaloedd chwarae, go karts bach electronig, ardaloedd gemau laser...ydy hyn yn ddigon? Gall oedolion ddianc hefyd am rywfaint o dawelwch a llonyddwch yn y bwyty trwyddedig neu ymlacio ar y patio.
Mwynderau
- Caffi/Bwyty
- Parcio
- Yn agos i gludiant cyhoeddus
- Cyfleusterau plant