Pysgota

Mae mynyddoedd uchel Eryri yn gefndir godidog i Ben Llŷn ac arfordir Bae Ceredigion sy’n frith o leoliadau pysgota gwahanol. Ceir clogwyni a chreigiau uchel sy’n plymio yn serth i’r môr gan roi marciau pysgota dŵr dwfn yn agos i’r lan. Mae’r 300km o arfordir wedi ei fritho gan draethau tywod, storm a cherrig a maent yn hafan a thynfa i’r pysgod. Lleolir Afon Menai, sy’n rhannu’r tir mawr oddi wrth Ynys Môn yng nghanol golygfeydd ysblennydd. Gellir pysgota yma am fas o’r gwanwyn hyd ddiwedd hydref gyda chyflwr y llanw ar ei orau pan ar ei isaf. O ran abwyd gall granc, abwydyn y môr a lygwn fod yn effeithiol heb anghofio troelli hefyd. Mae Dinas Dinlle yn leoliad sydd werth ei ymweld gyda’r ‘tope’ yn cyrraedd ar ddiwedd gwanwyn i ddechrau’r haf. Gall y pysgod yma roi profiad pysgota byth gofiadwy i’r pysgotwyr a gallant bwyso o ugain pwys i fyny. Peidiwch ac anghofio am  Llyn Trawsfynydd, cafodd ei enwi fel un o'r pump llyn gorau yng Nghyrmu gan Croeso Cymru. Digon o rheswm i ymweld felly!

Mae Eryri yn nefoedd i bysgotwyr gêm gyda dros 100 o lynnoedd, pob un a’i gymeriad a’i leoliad unigryw ei hun, yn amrywio o rewlyn Llyn Cwellyn yn y gogledd i Dal y Llyn gyda’i brydferthwch a’i dawelwch hudolus yn y de. Llyn Tegid yn y Bala yw’r llyn naturiol mwyaf yng Nghymru ac mae’n ymestyn yn osgeiddig rhwng copaon uchel Aran Benllyn, yr Arenig Fawr a mynyddoedd mawreddog y Berwyn. Mae gan Lyn Crafnant, a Llyn y Dywarchen a Cregennan stoc dda o frithyll rhagorol tra bod brithyll gwyllt gosgeiddig brodorol yn llechu mewn llynnoedd megis Nantlle. Cynhelir llawer o gystadlaethau pysgota rhyngwladol ar lyn Trawsfynydd, sef lleoliad Camlod yn y ffilm ‘First Knight’, ac mae’r llyn hwn yn cael ei ystyried yn un o’r cronfeydd dŵr pysgota gorau yng Nghymru. Ceir pysgota afonydd rhagorol mewn nifer o afonydd trwy’r ardal gan gynnwys afon Llyfni, Dwyfor, Glaslyn, Mawddach a Chonwy. Mae’r afonydd hyn yn enwog am eu brithyll gwyllt, a gellir hefyd ddal digonedd o eogiaid a sewin yma yn ystod diwedd y tymor.

Mae traddodiad pysgota yr ardal yn parhau gyda phatrymau plu lleol fel y Diawl Bach, Haul a Gwynt a Choch y Bonddu yn ffefrynnau hyd heddiw. Ond mae Pysgota Cwrs, sydd ar gael yn bennaf yn y llynnoedd preifat, yn dod yn fwy a mwy poblogaidd ac yn cael ei ystyried fel dewis arall i’r pysgota plu mwy traddodiadol.

Mae pysgota môr yn boblogaidd iawn ar hyd y rhan fwyaf o’r 300 cilometr o arfordir eithriadol o hardd, yn arbennig mewn lleoedd fel Caernarfon, Conwy, Nefyn, Llanfairfechan, Penmaenmawr a Threfor. Gellir trefnu i logi cwch i fynd i bysgota mewn llawer o’r pentrefi harbwr. Mae’r amryw o siopau sy’n gwerthu offer pysgota yn barod iawn i roi cyngor.

Pysgota Gêm:

Crafnant Fishery 
Trefriw
01492 640818
www.llyn-crafnant.co.uk

Glanmorfa Mawr 
Porthmadog
01766 513333

Graiglwyd Springs 
Penmaenmawr
01492 622338
www.graiglwydsprings.co.uk

Llyn Gwernan
Dolgellau
01341 422488
www.gwernan.wales

Gwydyr Fishery
Betws-y-Coed
www.gwydyrfishery.co.uk

Llynnoedd Cregennan 
Dolgellau
07854139766
www.cregennan.co.uk

Organic Parc 
Llithfaen
01758 750000
www.organicparc.co.uk

Pysgodfa Talyllyn 
Tywyn
01654 782282
www.tynycornel.co.uk

Pysgodfa Eisteddfa 
Criccieth
01766 523425
www.eisteddfa-fisheries.com

Pysgota Bras:

Llynoedd Pysgota Bron Eifion
Criccieth 
01766 523512
www.broneifion.com

Conwy Water Gardens 
Rowen
01492 650063
www.conwywatergardens.co.uk

Pysgodfa Eisteddfa 
Criccieth
01766 523425
www.eisteddfa-fisheries.com

Glasfryn Parc 
Y Ffôr
01766 810202
www.glasfryn.co.uk

Llyn y Gro 
Bala
01678 530415
www.gro-coarsefishery.co.uk

Cymdeithasau Pysgota:

Y Bala a’r Cylch 
07929 593319
www.balaangling.co.uk

Betws-y-coed 
01690 710143
www.betws-y-coed-anglers.org

Cambrian 
01766 762401

Cricieth a Llanystumdwy
01766 810548

Dolgarrog 
01492 660373

Dolwyddelan 
01690 750444

Seiont, Gwyrfai a Llyfni
www.sgll.co.uk

Artro a Thalsarnau 
01341 241295

Dolgellau 
07825180111
www.dolgellauanglingassociation.co.uk

Ystumaner 
01654 782279

Prysor (Trawsfynydd)
01766 540313
www.trawslake.com

Pwllheli a’r Cylch 
01758 613291
www.llynangling.net

Glaslyn 
01766 770339
www.glaslynangling.co.uk

Dyffryn Ogwen
01248 601153
www.pysgotaogwenfishing.cymru

Siopau Pysgota:

D & E Hughes
Pwllheli 
01758 613291

Abersoch Angling
Abersoch 
01758 712646

E Roberts & Son
Aberdaron 
01758 760 620

AD & N Griffiths
Penygroes 
01286 880421

Barmouth Angling
Barmouth 
01341 280 480

Beachcaster
Barmouth 
01341 281 537

Cambrian Fishing Tackle
Blaenau Ffestiniog 
01766 831474

Sheffield House
Criccieth 
01766 522 805

North Wales Angling
Caernarfon 
01286 677099

Barrys Tackle
Tywyn 
01654 710357

Penrhyn Guns and Tackle
Penrhyndeudraeth 
01766 770 339

Porthmadog Bait & Tackle
Porthmadog 
01766 513 719

Siop Eleri
Aberdaron 
01758 760233

JP Phillips
Tywyn 
01654 710046

J&J Newsagents
Trawsfynydd 
01766 540234

Menai Marine
Caernarfon 
01286 677445