Treftadaeth a Diwylliant

Dynodwyd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru, Gwynedd yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 2021. Mae’n eiddo â chwe rhan: Dyffryn Ogwen; Chwarel Dinorwig; Dyffryn Nantlle; Gorseddau a Bwlch y Ddwy Elor; Ffestiniog & Porthmadog ac Abergynolwyn & Tywyn, gyda phob un yn cwmpasu chwareli a cheudyllau creiriol, safleoedd archeolegol yn ymwneud â prosesu llechi, aneddiadau hanesyddol, gerddi hanesyddol a plastai mawreddog, porthladdoedd, phlastai a cheiau, a rheilffyrdd a systemau ffyrdd yn yn arddangos cysylltiadau ymarferol a chymdeithasol y tirwedd ddiwydiannol creiriol.

Nantlle © RCAHMW
Nantlle © RCAHMW


Mae’n cynnwys tirweddau chwareli ysblennydd megis Penrhyn, Dinorwig, Dyffryn Nantlle a Ffestiniog. Mae hefyd yn cynnwys yr Amgueddfa Llechi yn Llanberis, Castell Penrhyn a reilffyrdd enwog y Ffestiniog a Thalyllyn, wedi eu hadeiladu i gludo’r llechi o’r chwarel i farchnadoedd ledled y byd a thrawsnewidiwyd y ddau yn ddiweddarach i reilffyrdd treftadaeth. Mae’r tirwedd yn adrodd stori anhygoel esblygiad cymdeithas amaethyddol yr ucheldir i un sy’n cael ei ddominyddu gan y diwydiant llechi; gyda threfi, chwareli a chysylltiadau trafnidiaeth yn cerfio eu ffordd drwy fynyddoedd Eryri i lawr tuag at y porthladdoedd eiconig. Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Llechi Cymru a dilynwch eu cyfrifon Facebook, X ac Instagram.

Mae Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru heb os yn hynod ddiddorol, ond yn ôl ei natur yn medru bod yn anghysbell, peryglus a heriol. Mae cyfran sylweddol o’r tirwedd o fewn perchnogaeth preifat ac mae rhywfaint o hyn ar dir ble nad oes caniatâd i fynediad cyhoeddus.

Cyn i chi gychwyn allan i archwilio’r tirwedd llechi, gofynnwch i chi eich hunain, oes gen i’r hawl i ymweld a’r safle? Oes gen i’r offer cywir? Ydw i’n gwybod sut fydd y tywydd? Ydw i’n hyderus fod gen i’r wybodaeth a’r sgiliau ar gyfer y diwrnod? Ewch i Mentro'n Ddiogel er mwyn darganfod sut i fwynhau eich ymweliad yn ddiogel.

Logo Llechi Cymru - Safle Treftadaeth y Byd

Ein Treftadaeth

Mae Ein Treftadaeth yn cwmpasu popeth o gynhanes i ddyfodiad y Rhufeiniaid, llwybrau’r pererinion i Dywysogion Gwynedd, tirweddau ysbrydoledig i’r diwydiant llechi.  Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Ein Treftadaeth.

Amgueddfa Lechi Cymru

Daw Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis â diwydiant a fu unwaith yn gyfrifol am ‘roi to ar y byd’, yn ôl yn fyw. Nid amgueddfa gyffredin mohoni. Dyma’r gweithdai go iawn o’r 19eg ganrif, yn edrych fel petai’r gweithwyr newydd adael am y diwrnod. Mae yma hefyd res o fythynnod y chwarelwyr ac olwyn ddŵr anferth. 

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu am blastai a thai hanesyddol, mawr a bach – er enghraifft, Castell Penrhyn ym Mangor a Thŷ Mawr Wybrnant, Penmachno, cartref cyffredin yr Esgob William Morgan, wnaeth gyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg am y tro cyntaf.

Geiriau a cherddoriaeth

Mae ein hiaith delynegol yn fiwsig i’r clustiau. Am fwy o felodïau Celtaidd a’r cyfle i gymryd rhan mewn arddangosfeydd rhyngweithiol, ewch i Dŷ Siamas, Dolgellau, y Ganolfan Genedlaethol i Gerddoriaeth Werin. Ac ar gyfer llenyddiaeth a barddoniaeth, ewch draw i Dŷ Newydd, Canolfan Ysgrifennu Creadigol Genedlaethol Cymru, Llanystumdwy.

Pobl a llefydd

Cafodd y gwleidydd tanllyd, Lloyd George, a ddaeth yn Brif Weinidog, fagwraeth heddychlon ym mhentref Llanystumdwy – ewch i ymweld â’r amgueddfa yn y pentref sy’n deyrnged i’r ‘Dewin Cymreig’ carismataidd. Gweledigaeth un gŵr – y pensaer Syr Clough Williams-Ellis – oedd pentref ffantasi Portmeirion, ble daw’r Eidal i ogledd Cymru. Ewch yno i gael eich rhyfeddu. Mae Kate Roberts (1891-1985) yn un o awduron mwyaf blaengar Cymru. Dewch i ddarganfod mwy am ei bywyd a’i gwaith yn y ganolfan dreftadaeth sydd wedi’i lleoli yn ei chartref pan oedd yn blentyn, sef Cae’r Gors, Rhosgadfan.

Cadw

Cadw yw gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am ofalu am sawl safle hanesyddol megis Plas Mawr, Conwy a chestyll pwysig. Lawr lwythwch y fersiwn diweddaraf o’r app o siop Apple neu Google ar-lein.

Hanes Lleol ar eich ffôn

Edrychwch allan am y logo 'HistoryPoints' ar furiau, ffens a ffenestri. Scaniwch y côd QR ar eich ffôn symudol neu dabled a dewch o hyd i hanes yr hyn sydd o'ch blaen 

History Points Graphic