Natur a Bywyd Gwyllt
Mae lot i’w drafod. Man gwych i ddechrau yw gyda’r Parc Cenedlaethol Eryri, yn mesur 840 milltir sgwâr ac felly yn un o’r parciau mwyaf ym Mhrydain. Yn ogystal â hynny mae’r Wyddfa – cadernid o 3,560ft/1085m, sef y copa uchaf yng Nghymru a Lloegr.
Os mai traethau sydd at eich dant chi, yna mae cannoedd o filltiroedd o forlin yma hefyd - sydd yn rhedeg ar hyd Bae Ceredigion (rhan o Barc Cenedlaethol Eryri) a Phen Llŷn, man sydd wedi ei ddynodi yn ‘Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol’.
Gwelwch felly, fod mwy ar gynnig na mynyddoedd creigiog. Fe ddewch o hyd i fryniau gwyrddion, afonydd byrlymus a dyffrynnoedd sydd wedi eu gorchuddio mewn gwŷdd hynafol, morlin llawn aberoedd prydferth a chilfachau neilltuedig, pentiroedd chwilfrydig a thraethau mawrion.
Mae’r bywyd gwyllt wrth eu bodd yma. Rydym yn gysegr i nifer o blanhigion ac anifeiliaid - o’r clogwyni yng Nghwm Idwal, cartref i’r ysblennydd Frwynddail-y-Mynydd, yr holl ffordd i Ynys Enlli ar flaen ‘Pen Tir Cernyw’ Eryri sydd yn fwrlwm o deulu’r Pâl Manaw.
Felly paciwch eich ysbienddrych. Dewch â’r camera. Dyma ychydig o gipluniau natur i roi blas i chi ar yr hyn sydd ar gynnig yma.
Gall ein hetifeddiaeth naturiol ei weld ar ei orau yn ein Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol ac yn ein Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, sydd yn bennaf yn cael eu gwarchod gan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Yma y mae’r cyfradd mwyaf o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol na unrhyw Barc arall ym Mhrydain. Ewch i gopa’r Wyddfa, y warchodfa uchaf yng Nghymru, ble mae adar ysglyfaethus megis hebog tramor a’r gigfran yn nythu yng nghanol y clogwyni tolciog, a ble ceir Brwynddail-y-Mynydd a phlanhigion gwydn eraill eu darganfod sydd wedi esblygu i ymdopi gyda’r amodau eithafol. Islaw, mae’r mynydd wedi ei addurno gyda choed derw, gwernen, a llwyfen.
Caiff Betws y Coed ei amgylchynu gan goedwig trwchus. Mae Gwydir, fel Coed-y-Brenin, yn gymysgedd o goedwig. Fe ddewch o hyd i binwydden Douglas a phyrwydden Norwy, ynghyd â derw gorau Cymru, ac - yn cuddio yng nghanol y coed - afonydd mynyddig cudd Llyn Geirionnydd a Llyn Crafnant. Dilynwch hen lwybrau’r mwynwyr drwy’r coed, gan edrych allan am foncath, hebog, cudyll bach, a’r grugiar ddu.