Rhoddodd y Lonely Planet y bedwerydd safle i Ogledd Cymru yn ei restr o’r deg cyrchfan orau - un o’r rhesymau dros hynny yw’r bwyd. Dyma ddywedwyd - ‘North Wales has also become a haunt of in-the-know foodies, so however visitors get their kicks, once they’ve worked up an appetite, they’ll also be well catered for’.
Nid ciniawa coeth yn unig ‘mo hyn. Yn ogystal â bwyd caboledig mewn gwestai gwledig gwobrwyedig a bwytai gydag ystafelloedd, gallwch gael blas o fwyd cartref da wedi’i goginio â gofal a pharch mewn caffis, bistros a thafarndai. Di o’n ddim syndod, mewn gwirionedd, gyda chystal cynnyrch lleol ar gael megis cig y gwartheg duon Cymreig a chig oen (o’r mynydd neu’r morfeydd heli), bwyd môr yn syth o gwch y pysgotwyr, caws artisan... a gwin a chwrw lleol hyd yn oed.