Beacon Climbing Centre
Beth bynnag fo'r tywydd, dewch i ddringo! Mae Canolfan Dringo Beacon yn lleoliad cyffrous ym mhob tywydd, gyda gweithgareddau hwyliog yn addas i'r teulu cyfan. Mae defnyddwyr Canolfan Beacon yn 4-80 oed a dyluniwyd y dringo i ddarparu ar gyfer pob lefel, o'r profiad cyntaf i berfformiad elitaidd. Concrwch y waliau uchel am ymdeimlad di-guro o gyflawni camp arbennig, profwch y rhyddid i ddringo heb ddefnyddio rhaff yn y mannau clogfeini lefel isel neu roi cynnig ar rywbeth sydd i gyd oddi ar y wal: CrazyClimb sy'n cynnwys cyfres o heriau dringo cryno! Nid oes angen profiad blaenorol a gall unrhyw un roi cynnig arni. Gall gwylwyr wylio am ddim, mae caffi anhygoel ar y safle, ac mae WiFi am ddim ar gael trwy'r ganolfan.
Mwynderau
- Parcio
- Caffi/Bwyty ar y safle