Clwb Golff Caernarfon
Wedi'i leoli ar lan Afon Menai gyda mynyddoedd Eryri yn gefndir, mae gan Glwb Golff Caernarfon rai o'r golygfeydd gorau o unrhyw gwrs golff. Mae'r cwrs yn un parcdir 18 twll, gyda'r ffyrdd clir gwyrddlas a'r griniau pytio yn rhedeg yn llyfn. Fe'i hadeiladwyd ym 1909 ac mae wedi datblygu o gwrs gwreiddiol 9 twll i fod yn gwrs pencampwriaeth 18 twll teg a heriol. Mae'r clwb yn estyn croeso cynnes i aelodau newydd ac ymwelwyr fel ei gilydd, ac mae'r cwrs a'r cyfleusterau yn cael eu gwella'n gyson wrth gadw teimlad cartrefol.