Beics Antur
Mae gan Beics Antur ddewis helaeth o feiciau merched, dynion a phlant i'w llogi, yn ogystal â beiciau addasol. Mae mewn lleoliad cyfleus, yn agos i Gastell Caernarfon, gyda mynediad hawdd i lwybrau beicio yr ardal, gan gynnwys Lôn Eifion a Lôn Las Menai. Maen hefyd yn cynnig gwasanaeth trwsio a gwasanaethu beics. Mae Antur Waunfawr yn fenter gymdeithasol leol, sy'n darparu gwaith a hyfforddiant i oedolion gydag anableddau dysgu.
Mwynderau
- Yn agos i gludiant cyhoeddus
- Llwybr Arfordir Cymru gerllaw
- Llwybr beicio Ffordd Brailsford Way gerllaw
- Llwybr beicio gerllaw
- Croesewir grwpiau