Chwedloniaeth
Mae diwylliant a hunaniaeth ardal Eryri Mynyddoedd a Môr wedi cael ei ddylanwadu gan chwedlau, llen gwerin, cewri, bwystfilod a hyd a lledrith. Mae’r chwedloniaeth yn gysylltiedig â bron i bob llyn, bryn, mynydd a phentref yn yr ardal. Mae’r hen draddodiad Cymreig o adrodd stori wedi sicrhau fo'r hen chwedlau unigryw yma'n parhau i ysgogi a difyrru unigolion heddiw ag oeddynt yn ystod eu dyddiau cynnar. Pryd bynnag ymwelwch ag ardal Eryri Mynyddoedd a Môr mae’r gorffennol, yr hyd a lledrith ai chwedloniaeth o amgylch pob cornel.
Y Mabinogi
Y chwedlau mwyaf enwog a dylanwadol yw’r gyfres o storiâu canoloesol a chaiff eu galw'r Mabinogi. Mae’r straeon yn disgrifio bywydau a llwyddiannau arwrol a hudol grŵp o gymeriadau sy'n rhyngberthyn. Mae’r chwedlau hyn yn cynnwys agweddau o gyfnod Paganaidd ar byd Canoloesol o’r cyfnod Arthuraidd. Mae lleoliadau trwy ardal Eryri Mynyddoedd a Môr yn gysylltiol gyda’r Mabinogi.
Arthur
Mae Brenin Arthur yn cael ei grybwyll yn llawer o straeon y Mabinogi, ac mae ganddo gysylltiadau cryf gyda’r ardal. Mae sawl enw lle yn cynnwys ei enw; yn ôl y son mae gan Gegin Arthur a Ffynnon Arthur yn Eryri briodweddau iachaol. Mae llawer o storiâu syn son am ogofau yn yr ardal yn son am Arthur yn cysgu ac yn aros am alwad i ddychwelyd at ei ddynion i achub Cymru. Mae llynnoedd Llydaw, Dinas ac Ogwen, ymysg llawer eraill, yn honni mai yno y mae Caledfwlch hudol. Yn ôl y son mae carreg gyda phrint pedol ceffyl Arthur ‘Llamrai’ i’w weld ar lan Llyn Barfog ger Aberdyfi. Dywed y cafodd y marc ei wneud pan wnaeth Arthur a’i geffyl lusgo bwystfil o ddyfroedd dwfn y llyn. Mae Arthur hefyd yn cael ei gysylltu gyda’r Wyddfa lle dywed y lladdwyd ef breswyliwr mwyaf enwog y mynydd Rhitta, cawr dychrynllyd a wnaeth glogyn i’w hun gan ddefnyddio barfau ei elynion. Fe orchuddiwyd ei gorff gyda cherrig enfawr gan ddynion Arthur ar gopa’r mynydd. Mae gan ynys Enlli ar arfordir Penrhyn Llyn hefyd gysylltiadau Arthuraidd. Dywed mai yno y cafodd Myrddin ei gladdu, gorweddai Myrddin mewn arch o wydr wedi ei gladdu gyda 13 o drysorau Prydain o’i amgylch a naw cymar barddol. Mae gan Myrddin gysylltiadau gyda Gwrtheyrn - Fe wnaeth Vortigen (arglwydd rhyfel creulon ac amhoblogaidd yn y 5ed ganrif) ddianc oddi wrth ei elynion drwy ffoi i fynydd Aran wrth Feddgelert. Dywedodd wrth ei ddynion i adeiladu castell iddo ar y safle, ond bob bore roedd y dynion yn darganfod fod y gwaith adeiladu a wnânt y diwrnod cynt wedi ei ddinistrio. Dywedodd ymgynghorwyr Vortigen iddo chwilio am blentyn amddifad a fagwyd gan dylwyth teg. Fe wnaeth dynion Vortigen ddod o hyn i’r bachgen, Myrddin Emrys neu Merlin fel y caiff ei alw. Fe eglura’r bachgen fod dwy ddraig yn y llyn oddi tan safle’r castell, un gwyn ac un coch, mewn brwydr farwol ac roedd y ddraig goch - y Cymry, yn llesteirio’r ddraig wen - y Sacson. Pan glywodd Vortigen yr hanes, fe wnaeth ef ddianc, ac fe drosglwyddodd Myrddin y castell i Emrys Wledig, a hyd heddiw mae gweddillion y caer hynafol Dinas Emrys dal i’w weld.
Rhys a Meinir
Yn Nant Gwrtheyrn mae'r stori fwyaf enwog a truenus yr iaith Gymraeg wedi ei leoli, sef stori Rhys a Meinir. Roedd Rhys Maredudd a Meinir Maredudd yn gefndryd a oedd yn byw ar ffermydd gwahanol yn y Nant. Fe ddisgynnodd y ddau mewn cariad, a'u hoff fan cwrdd oedd wrth foncyff hen goeden dderwen yn y cwm. Fe benderfynasant briodi yn Eglwys Clynnog. Ar fore’r briodas, yn ôl yr arfer roedd y briodferch yn cuddio rhag ffrindiau’r priodfab a oedd yn ei thywys i’r eglwys. Fe wnaeth ffrindiau Rhys chwilio a chwilio am Meinir, ond ni ddaethant o hyd iddi. Fe aethant i’r eglwys hebddi, gan ddisgwyl ei gweld hi yno. Ond, ar gyrraedd yr eglwys gwelsant nad oedd Meinir yno. Roedd pawb yn dechrau poeni, yn enwedig Rhys, a aeth yn ôl i’r Nant i chwilio amdani. Bu Rhys yn chwilio am Meinir am fisoedd, heb ddod o hyd iddi. Ddydd a nos, roedd Rhys yn chwilio amdani - ei unig gwmni oedd ei gi ffyddlon, Cidwm. Roedd Rhys yn drist a thrallodus, a dros amser fe aeth yn wallgof. Un noson stormus pan oedd Rhys yn chwilio am Meinir, fe aeth ef a Cidwm i loches o dan yr hen goeden dderw lle yr oedd ef a Meinir yn arfer cwrdd. Fe darwyd y goeden gan fellten a dorrwyd y boncyff yn hanner, gan ddatgelu ysgerbwd a oedd yn gwisgo ffrog briodas, a ddisgynnodd ar y ddaear wrth ymyl Rhys. Roedd hyn yn ormod o fraw i Rhys a bu farw yn syth. Fe orweddodd Cidwm wrth ymyl ei feistr, a bu farw yn ei gwsg.
Cantre’r Gwaelod
Ar un adeg, pe baech yn edrych draw i gyfeiriad Iwerddon o aber afon Dyfi, fe welech diroedd toreithiog, yn ymestyn rhyw ugain milltir i'r hyn sydd erbyn hyn yn Fae Ceredigion. Yr enw ar yr ardal hon oedd Maes Gwyddno. Tua 600 OC, enw'r prif anheddiad ar y tir hwn oedd Cantre’r Gwaelod. Roedd yn rhan werthfawr o deyrnas Meirionnydd a'r brenin oedd Gwyddno Garanhir. Gan fod y tir mor isel, roedd clawdd mawr yn ei warchod rhag y môr. Roedd llifddorau yn y clawdd yn cael eu hagor pan oedd y môr ar drai er mwyn draenio'r dwr o'r tir, a'u cau wedyn pan ddôi'r llanw i mewn. Un noson ofnadwy, oherwydd esgeulustod un dyn, boddwyd Cantre’r Gwaelod a holl diroedd Maes Gwyddno.
Cader Idris
Mae Cadair (neu Cader) Idris yn un o fynyddoedd mwyaf eiconig Cymru. Mae tuag 893m o uchder ac yn rhyw fath o borth deheuol i Eryri, yn edrych dros Ddolgellau. Y tri chopa yw Pen y Gadair, y Cyfrwy a Mynydd Moel.Mae llu o straeon a chwedlau'n gysylltiedig â'r mynydd ac ag Idris, y cawr y dywedir ei fod yn arfer eistedd yno. Yn ôl y sôn, mae nifer o lynnoedd yr ardal, fel Llyn Cau sydd mewn cwm hanner ffordd i lawr y mynydd a Llyn Mwyngil (neu Lyn Tal-y-llyn) yn byllau diwaelod. Mae'n debyg y dylech feddwl ddwywaith cyn mynd i wersylla ar Gadair Idris oherwydd dywedir bod y sawl sy'n cysgu ar y mynydd yn deffro'n wallgof neu'n fardd neu, wir, yn peidio â deffro o gwbl.