Cynllunio Eich Ymweliad

Yma fe welwch wybodaeth hanfodol i'ch helpu i wneud y gorau o'ch gwyliau, gwyliau byr neu ddiwrnod yn Eryri, Gogledd Cymru - mae cymaint i'w weld a'i wneud. Os na allwch ddod o hyd i'r hyn rydych chi'n chwilio amdani, cysylltwch â ni.

Mae Cyngor Gwynedd wedi creu map rhyngweithiol a rhestrau o lefydd fel meysydd parcio, toiledau cyhoeddus a chymunedol, canolfannau ailgylchu, llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden.
 

Gwasanaethau Brys a Gwybodaeth Feddygol

999
Pan fyddwch chi'n ffonio 999, bydd gweithredwr yn gofyn i chi pa wasanaeth brys sydd ei angen arnoch chi.

Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor,  LL57 2PW
01248 384384

Gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau
0300 123 5566

GIG 111 Cymru
Mae'r gwasanaeth 111 ffôn ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, a gallwch ei ddefnyddio i gael cyngor iechyd brys ar ba wasanaethau i'w cyrchu neu sut i reoli salwch neu gyflwr ac i gael mynediad at ofal sylfaenol brys y tu allan i oriau (lle mae'r gwasanaeth hwnnw ar gael yn eich ardal chi).

what3words
Mae pob eiliad yn cyfri mewn argyfwng - gall gwastraffu amser yn egluro eich lleoliad beryglu bywyd. Wrth ymweld â Gogledd Cymru gwnewch siŵr eich bod yn gwybod cyfeiriad lle 'dach chi'n aros. Defnyddiwch yr ap #what3words i nodi'ch lleoliad fel y gallwn eich helpu chi'n gyflym.