Cerdded yn Llŷn a Pharc Cenedlaethol Eryri

Yr Wyddfa ei hun, sydd yn 3,560 troedfedd (1,085m) o uchder, yw’r brif gyrchfan cerdded i’r mwyafrif o bobl. Y llwybrau mwyaf poblogaidd at y copa yw Llwybr Llanberis, sy’n rhedeg ochr yn ochr â Rheilffordd Mynydd yr Wyddfa ac, ychydig yn fwy anodd, Llwybr Pyg a Llwybr y Mwynwyr. Dilynwch y Cod Cefn Gwlad pan yn cerdded yn yr ardal os gwelwch yn dda.

Serch hynny, mae llawer o gadwyni eraill o fynyddoedd sydd yr un mor brydferth ac yn rhoi llawn cymaint o her i gerddwyr megis Y Carneddau, Y Glyderau, Y Rhinogydd a Chader Idris. Gellir mwynhau teithiau cerdded mwy hamddenol trwy goedwigoedd a choetiroedd Dolgellau a Betws y Coed a’r bwlch rhwng y mynyddoedd yn Nhal y Llyn ac Aberglaslyn sydd ymhlith rhai o’r nifer o ddewisiadau eraill ar gyfer cerddwyr. Mae gan yr ardal rwydwaith o lwybrau beicio a llwybrau cerdded y Lonydd Glas lle na chaniateir cerbydau. Mae'r llwybr o Abermaw i Penmaenpool yn cynnig golygfeydd hardd o aber Mawddach.

Penmaenpool
Penmaenpool 

 

Cylchdeithiau Cerdded yr Arfordir

Er mwyn manteisio i'r eithaf ar y cynnig cerdded ar yr arfordir mae 18 o deithiau cylchol sy'n rhoi cyfle i chi fwynhau Llwybr yr Arfordir, ond hefyd i werthfawrogi natur, treftadaeth, diwylliant a chyfleoedd antur sydd ar gael yn y pentrefi a'r trefi cyfagos. Mae'r llwybrau wedi'u lleoli o amgylch arfordir Llŷn ac Eryri ac yn amrywio o daith gerdded 2 filltir hawdd i daith 5 awr anodd.

Traeth Porthor
Porthor

Llwybr Arfordir Cymru

Dyma gyfle euraidd i brofi gwlad agored a chymhleth arfordiroedd Penrhyn Llŷn, Menai a Meirionnydd. Mae'r llwybr yn dilyn arfordir Gwynedd, sy'n ymestyn 180 milltir o Lanfairfechan yng ngogledd y sir, i lawr i Fachynlleth. Trwy ddilyn y llwybr gallwch chi fwynhau ysblander yr ardaloedd amrywiol o dirwedd, mae yna gildraethau bach a thraethau hir tywodlyd, clogwyni garw a rhostir gwyllt. Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys mapiau i'w lawrlwytho, ewch i wefan Llwybr Arfordir Cymru.

Llwybr Llechi Eryri

Beth yw'r llwybr? Llwybr cylch 83 milltir sy’n galluogi cerddwyr i ddarganfod treftadaeth diwydiannol pentrefi chwarelyddol Eryri ydy hwn.

Mae’r llwybr, a rhan ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, yn cychwyn yn Aber Ogwen ger Bangor ac yn gorffen ym Methesda a mae’n denu cerddwyr i bentrefi Llanllechid, Bethesda, Llanberis, Waunfawr, Nantlle, Rhyd Ddu, Beddgelert, Croesor, Ffestiniog a Phenmachno. Mae’n mynd heibio nifer o fentrau cymdeithasol a chyfleusterau cymunedol ac mae’n darparu cyfleoedd i bobl gael well dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o dreftadaeth llechi'r ardal.

Mae noddwyr y Llwybr, Grŵp Gweithred Cymunedol Cwm, Cwm Penmachno, Betws y Coed, yn cydnabod y cymorth sylweddol wrth ddatblygu'r Llwybr a ddarperir gan Gynghorau Gwynedd a Chonwy, Y Cerddwyr, Cymdeithas Eryri ac, yn benodol, swyddogion a wardeiniaid Parc Cenedlaethol Eryri.

Ewch i Llwybr Llechi Eryri i lawrlwytho mapiau a chyfarwyddiadau`r llwybr, ac i ddarllen am y nifer o nodweddion ac atyniadau ar hyd y Llwybr. 

Dinorwig Quarry © RCAHMW
Dinorwig © RCAHMW

Ramblers Cymru - Teithiau Cerdded o’n Gorsafoedd

Beth am barhau â’ch antur ar droed gydag un o deithiau cerdded y Cerddwyr
Mae ein gorsafoedd rheilffordd yn fannau cychwyn ar gyfer digonedd o deithiau cerdded hyfryd o gwmpas ein pentrefi, trefi a dinasoedd gan gynnwys Bangor, Abermaw, Blaenau Ffestiniog, Cricieth, Penrhyndeudraeth a Phwllheli.

Tarwch olwg ar y teithiau cerdded gan Cerddwyr Cymru sy’n dechrau cyn gynted ag y byddwch chi wedi camu oddi ar y trên. Mae rhywbeth ar gyfer pob gallu, a gallwch chi eu mwynhau ar eich cyflymder eich hun, boed hynny drwy grwydro’n hamddenol neu fynd ar daith gerdded egnïol.

Llwybrau Cerdded yn y Bala a Phenllyn

Mae Bala yn 'Mecca' ar gyfer cerddwyr gydag ystod o deithiau cerdded i weddu i bawb o deuluoedd i gerddwyr profiadol. Ewch i wefan GoBala am ragor o fanylion.

Taith Mari Jones

Wrth ddilyn y daith linol hon, byddwch yn cerdded am 28 milltir ac yn mwynhau tirwedd godidog yr hen sir Feirionnydd; byddwch yn cychwyn y daith mewn dyffryn hardd wrth droed Cadair Idris ac yn terfynu wrth lannau Llyn Tegid. Byddwch yn cerdded ar lwybrau fydd â chaniatâd y tirfeddiannwr wedi ei sicrhau cyn mynd arnynt ac ar hyd rhai ffyrdd cyhoeddus; aiff y daith â chi dros fynydd-dir hardd a thrwy goetiroedd; ar hyd ffyrdd rhamantaidd cefn gwlad a ffyrdd mwy, prysurach. Byddwch yn rhyfeddu at lynnoedd a mynyddoedd hyfryd o’ch cwmpas. Am fwy o wybodaeth ewch i www.bydmaryjonesworld.org.uk.

Uchafbwyntiau Rhai o Lwybrau Cerdded Eryri BBC Weatherman Walking Derek Brockway

Isod mae enghreifftiau o'r teithiau cerdded mae Derek wedi'i wneud yn Eryri.

Aberdyfi
Abergynolwyn
Abersoch i Bwllheli
Afon Dwyryd
Bala
Bethesda
Beddgelert
Cader Idris
Carneddau
Glyder Fawr
Harlech i Abermaw
Llanberis
Morfa Nefyn
Portmeirion