Llechi a Phethau
Wedi'i leoli o fewn muriau tref Caernarfon hanesyddol a dim ond ychydig funudau i ffwrdd o Gastell Caernarfon mawreddog, mae Llechi a Phethau yn siop sy'n stocio ystod eang o grefftau Cymreig lleol o safon. Maen nhw'n arbenigo mewn gwaith llechi ond hefyd yn arddangos gwaith artistiaid a gweithwyr crefft talentog eraill, a'r gwaith gwych maen nhw'n ei gynhyrchu, gan gynnwys Snowdonia Blue Slate, Prestige Pens, The Soap Mine, Ruby Gingham a Jon March Photographics dim ond i enwi ychydig.