Wal Restaurant
Mae bwydlen eclectig Bwyty Wal yn cynnwys popeth o fyrgyrs i'ch bodloni amser cinio i stêcs ffiled o'r ansawdd gorau. Daw'r cig i gyd o Neuadd Llanfair, dim ond pedair milltir i fyny'r ffordd. Mae cig y fuches o wartheg duon Cymru sy'n pori yno yn esgor ar flas hyfryd, diolch i laswellt gwyrddlas a blodau dolydd eu porfa, a ffordd o fyw heb straen a dreuliwyd ochr yn ochr â'r Afon Menai. Mae eu cig hefyd wedi'i hongian am 28 diwrnod i sicrhau tynerwch perffaith, ac yna ei goginio ar gril o'r radd flaenaf ar gyfer profiad bwyta heb ei ail. Yn ogystal â stêcs blasus, mae Wal yn gweini prydau pasta perffaith, risottos a phitsas. Mae bwydlen draddodiadol dyddiol o gawl, brechdanau, brecwastau trwy'r dydd, byrgyrs, pysgod a sglodion ac ati, yn addo llenwi'ch bol heb wagio'ch waled.
Gwobr Lonely Planet 2019/2020
Gwobrau
Mwynderau
- Mynedfa i’r Anabl
- WiFi ar gael
- Taliad Apple
- Croeso i bartion bws
- Cyfleusterau newid babanod
- Talebau rhodd ar gael
- Croesewir teuluoedd
- Toiledau Anabl
- Toiled
- Derbynnir cardiau credyd
- Arhosfan bws gerllaw
- Derbynnir Cŵn
- WiFi am ddim