Gelli Gyffwrdd
Wedi ei ethol yr Atyniad Teuluol Gorau yng Ngogledd Cymru am chwech mlynedd yn olynol, cewch dim un diwrnod allan gwell na hyn! Mae’r Gelli Gyffwrdd wedi ei leoli mewn 27 acer hudolus, ac mae’n hawdd gweld pam ei fod yn ddiwrnod allan llawn – Darganfod antur yn y goedwig, atyniadau anhygoel a gweithgareddau hwyliog teuluol yn y fforest.
Ewch am sblash ar yr unig lithren dŵr yn y DU wedi ei bweru gan ynni’r haul, neidiwch ar fwrdd y ‘roller coaster’ cyntaf yn y byd i gael ei bweru gan bobol, neu gwibiwch lawr y cwrs sled hiraf yng Nghymru! Mi fydd plant wrth eu boddau yn bownsio ar y ‘Giant Jumper’, archwilio tyrrau ‘TreeTop Towers’, diosg eu sgidiau a’u sannau i fynd ar Daith Troednoeth neu anelu am aur efo bwa a saeth. Does dim rhaid poeni am y glaw chwaith! Mae’r ‘Enchanted WoodBarn’ yn llawn o’r offer chwarae tu mewn diweddaraf, gydag ardal ar wahân i blant dan 3.
Byddwch yn barod i gael eich gwefreiddio yn Theatr y Forest, lle bydd diddanwyr gwych yn eich difyrru – Smarty Marty y Clown, Harley’s Showtime a Ricardo y Môr Leidr – fedran nhw ddim aros i wneud i chi chwerthin.Gallwch fod yn greadigol yn yr ardal grefftau, lle medrwch weld crefftwyr lleol a gwneud rhywbeth unigryw i fynd adref gyda chi! Mae’r ‘Little Forest PlayBarn, ‘Toddlers Village, ‘Tunnel Warren’ a’r ‘Little Green Run’ yn weithgareddau antur i blant llai. Gyda chymaint i’w wneud ar ddiwrnod allan, mi fyddwch angen egwyl! Yn y ‘GreenOak Café’, cewch ddewis o brydau blasus poeth ac oer, yn ogystal â dewis helaeth o gynnyrch lleol a Masnach Deg. Neu, yn ystod gwyliau ysgol, cymerwch damaid o un o’n pedwar bar byrbryd gwych.
Gwobrau
Mwynderau
- Caffi/Bwyty
- Parcio
- Parcio (Bws)
- Siop