Sheeps And Leeks
Mae Sheeps and Leeks, yng Nghaernarfon, yn fwyty diymhongar gyda lle i 20 eistedd, gan ddarparu profiad bwyta bythgofiadwy i westeion, sy'n cynnwys bwydlenni blasu cytbwys a wasanaethir mewn awyrgylch hamddenol ac anffurfiol.
Mae'r bwyty yn ymfalchïo yn hyrwyddo'r cynnyrch gorau o'r ardal leol, gan weithio'n agos gyda chynhyrchwyr crefftwrol i ddod o hyd i gynhwysion o'r ansawdd uchaf ar gyfer bwyd a diod. Mae'r fwydlen blasu gosod yn 100% yn dymhorol, sy'n esblygu'n barhaus gyda'r tymhorau'n newid i arddangos y cynhwysion mwyaf ffres a blasus sydd ar gael.
Ers agor yn 2019, mae Sheeps and Leeks wedi cael cryn gydnabyddiaeth yn y byd coginio - wedi'u cynnwys yn y MICHELIN Guide a'r Good Food Guide ac ennill categori 'Bwyty'r Flwyddyn y Gogledd' yng Ngwobrau Bwyd Cymru 2023.