Cyfarchion
Mae Cyfarchion, yng Nghaernarfon, yn cynhyrchu anrhegion hyfryd yn Gymraeg a Saesneg wedi'u gwneud â llaw . Mae Llinos wedi datblygu arddull unigryw a modern o ddylunio, pob un wedi'i wneud â llaw gan ddefnyddio Clai Polymer a Phapur Merwydden. Mae Cyfarchion yn parhau i ddatblygu a chreu ystod newydd a chyffrous o gynhyrchion, cadwch lygad am y rhain!