Economi Ymweld Cynaliadwy Gwynedd ac Eryri 2035

Digwyddiad Partneriaeth

Lansiad Partneriaeth Economi Ymweld Cynaliadwy Gwynedd ac Eryri 2035

Strategaeth arloesol newydd yw Cynllun Economi Ymweld Cynaliadwy Gwynedd ac Eryri 2035 sy’n cyflwyno dull hollol wahanol o fesur effaith twristiaeth yng Ngwynedd ac Eryri. Trwy drafodaethau agored a gonest gyda’r rhai sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardal, mae’r cynllun yn sefydlu cyfres newydd o egwyddorion sy’n anelu at unioni’r cydbwysedd yn yr ardal, ac yn rhoi cymunedau wrth galon y rhai sy’n elwa o’r economi ymwelwyr.

Bydd y cynllun yn cydnabod pwysigrwydd economi ymweld Gwynedd ac Eryri tra hefyd yn gwarchod y rhinweddau sy’n gwneud yr ardal yn unigryw.

25 Medi, 2023
9:30–12:30
Plas Tan y Blwch, Maentwrog
Mae archebu lle i fynychu wyneb yn wyneb wedi cau ond mae posib archebu lle os am fynychu'r sesiwn ar-lein drwy Zoom

Gwynedd & Eryri 2035 Logo

Egwyddorion Ymweld Cynaliadwy Gwynedd ac Eryri 2035

Gweledigaeth: 

"Economi Ymweld er budd a lles pobl, amgylchedd, iaith a diwylliant Gwynedd ac Eryri"

Mae’r maes twristiaeth wedi bod yn derbyn sylw gan y Cyngor fel rhan o flaenoriaethau Cynllun Gwynedd. Mae nifer o drafodaethau wedi eu cynnal i ddatblygu Egwyddorion Economi Ymweld newydd ar gyfer y sir ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri gogyfer ar 15 mlynedd nesaf.

Wrth edrych i lunio ein hegwyddorion ar gyfer y dyfodol, rhoddwyd ystyriaeth i ddiffiniad o dwristiaeth cynaliadwy neu gyfrifol Sefydliad Twristiaeth y Byd y Cenhedloedd Unedig (UNWTO)

“Twristiaeth sy’n cymryd llawn ystyriaeth o’i effaith economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol presennol ac i’r dyfodol, gan ymateb i anghenion ymwelwyr, y diwydiant, yr amgylchedd a chymunedau lleol”. 

Fel rhan o’r broses o ddatblygu Egwyddorion Economi Ymweld Cynaliadwy drafft i Wynedd, ac Eryri ymgymerwyd a sawl darn ymchwil a  gweithgaredd. Bydd y cynllun terfynol yn cael i’w lansio yn ystod Gwanwyn 2022. 

Isod mae cyswllt i’r prif ddarnau o waith cefndirol sydd wedi eu hystyried hyd yma.

Economi Ymweld Cynaliadwy Gwynedd ac Eryri 2035 - Cynllun Strategol

Nodyn Briffio 3 ar yr Economi Ymweld yng Ngwynedd ac Eryri 2035 (Haf 2023)

Nodyn Briffio 2 ar yr Economi Ymweld yng Ngwynedd ac Eryri 2035 (Mawrth 2022)

- Nodyn Briffio 1 ar yr Economi Ymweld yng Ngwynedd ac Eryri 2035 (2022)

- Adroddiad Cabinet Cyngor Gwynedd 14/2/2023

- Cyfarfod Awrdurdod Parc Cenedlaethol Eryri 8/2/2023

- Adolygiad Rheolaeth Cyrchfan

- Ariannu Blaenoriaethau Twristiaeth y Dyfodol 

Adolygiad Llety Twristiaeth Sirol

- Cyflwyniadau Rhyngwladol ar Dwristiaeth Cynaliadwy (Julian Alps, Slovenia)

- Cynllun Eryri (Parc Cenedlaethol Eryri)

- Strategaeth Parcio a Thrafnidiaeth Yr Wyddfa ac Ogwen

- Podlediadau sydd yn sôn am Twristiaeth Gynaliadwy