Naws am Le

Mae ardal Eryri Mynyddoedd a Môr yn cynnwys Penrhyn Llŷn, Arfordir Cambrian, Dyffryn Conwy a Hiraethog. 

Mae 'Tir o wrthgyferbyniadau' yn un o'r ystrydebau hynny sydd wedi'u gorddefnyddio hyd syrffed mewn canllawiau teithio. Ond yma, mae'n ddywediad hollol wir. Un munud rydych chi i fyny, i fyny ac i ffwrdd yn y mynyddoedd. Y tro nesaf, rydych chi ar y traeth. Nid yw'n ormod dweud eich bod chi'n gallu teimlo ar ben y byd yn y bore (profi brig yr Wyddfa), a gymaint o  dywod a’r Sahara o dan eich traed yn y prynhawn (yn Harlech, Dinas Dinlle neu Draeth y Graig Duon). 

Nid yw hynny'n gymaint o syndod pan ystyriwch fod Eryri Mynyddoedd a Môr yn ymgorffori Parc Cenedlaethol Eryri, Penrhyn Llŷn (Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol) a thua 200 milltir o arfordir.