Ffordd Cymru

Tair llwybr eiconig yw Ffordd Cymru sy'n mynd â chi drwy'r gorau sydd gan Cymru i'w gynnig. Mae’r Ffordd Arfordirol yn mynd ar ymyl Bae Ceredigion o Dŷ Ddewi yn Sir Benfro i Aberdaron ym mhen pellafLlŷn, mae Ffordd Cambria yn mynd trwy galon Cymru o Gaerdydd i Landudno, ac mae Ffordd Gogledd Cymru yn mynd o Queensferry yn y Dwyrain i Gaergybi yn y Gorllewin.Yng Ngwynedd, rydyn ni'n ffodus bod pob un o'r tri ffordd yn mynd drwy'r sir, gyda llawer o uchafbwyntiau ar y llwybrau eu hunain, a rhai tafliad carreg i ffwrdd.


Ffordd y Gogledd

Mae Ffordd y Gogledd yn dilyn llwybr hen ffordd fasnach am 75 milltir (120km) ar hyd arfordir y gogledd a throsodd i Ynys Môn. Yn ogystal â threfi gwyliau glan y môr a chestyll mawreddog sydd ar hyd y daith, mae Ffordd y Gogledd yn cynnig cyfle i ddarganfod cefn gwlad godidog Gogledd Cymru. Gallwch fynd ar antur trwy Ddyffrynnoedd Clwyd a Chonwy, mynyddoedd Eryri, y Fenai, ac ynys fwyaf Cymru sef Ynys Môn. Mae’r mapiau hyn yn cynnwys cylchdeithiau a llwybrau lleol oddi ar Ffordd y Gogledd, fel man cychwyn ar gyfer profi tirwedd, harddwch a threftadaeth gyfoethog y rhanbarth - gyda digon o lefydd i fwyta, aros a mwynhau ar hyd y ffordd. Cliciwch yma i lawrlwytho PDF Llwybr y Dyffrynnoedd Llechi.


Ewch i grwydro ar hyd Ffordd yr Arfordir

Mae Ffordd yr Arfordir yn ymlwybro'n ddi-dor ar hyd Bae Ceredigion drwy siroedd Gwynedd, Ceredigion a Sir Benfro. Mae’n daith glan y môr ysblennydd gyda digon o uchafbwyntiau i'w gweld ar y ffordd. Dyma siwrne arfordirol epig sy'n ymestyn o Aberdaron ym mhen draw Llŷn yn y gogledd i ddinas fechan Tŷ Ddewi yn y de ac yn ystod y daith byddwch yn mynd drwy Arfordir Treftadaeth gwarchodedig, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol a dau Barc Cenedlaethol. Ar hyd y ffordd, byddwch yn siŵr o weld tirwedd nodedig Gymreig o draethau euraidd, pentrefi harbwr prydferth, aberoedd ardderchog, cilfachau cudd a chestyll cadarn. Mae cymaint i'w weld ar hyd Ffordd yr Arfordir, mae'n anodd gwybod lle i ddechrau. I'ch rhoi ar y trywydd iawn, rydym wedi creu cyfres o deithlenni gan gynnwys taith Cestyll, Diwylliant a Threftadaeth.