Siop iard Caernarfon
Yn Siop iard yn nhref hanesyddol Caernarfon gallwch brynu gwaith gan artistiaid Siop iard. Gwneir popeth yn y gweithdy ar y safle. Mae'r gwaith sydd ar werth yn cynnwys gemwaith wedi'i wneud â llaw mewn Aur, Arian, porslen, haearn, pres a chopr, rhai'n cynnwys gemau gwerthfawr. Trefnwyd cyrsiau crefft o ansawdd uchel gan Siop iard ers dros ddeng mlynedd sydd wedi ennill enw da am ragoriaeth. Cynhelir y cyrsiau hyn ar y safle uwchben y siop.
Aelodau Siop iard yw Angela Evans, Ann Catrin Evans, Elin Mair, Charlotte Bellis a Hanna Liz.