Arete Outdoor Centre
- 1 Stars
- 2 Stars
- 3 Stars
Mae Arete Outdoor Centre ym Mharc Cenedlaethol Eryri, yn cynnig mynediad ardderchog i'r arfordir trawiadol, afonydd ymdroellog, mynyddoedd anhygoel a llynnoedd mawr Gogledd Cymru ac Ynys Môn. Gyda llety cyfforddus, fforddiadwy, byncws a cheginau mawr ar gyfer arlwyo'n hawdd, mae hwn yn ganolfan wych i grwpiau o ffrindiau neu deulu. Mae'r ardal yn angerddol am ei iaith, ei gerddoriaeth a'i hanes ac mae'n gyfoethog â chestyll godidog, rheilffyrdd stêm, treftadaeth a gwyliau, felly mae digon i'w wneud. Mae'r tîm yn hapus i gynnig cyngor ar sut i wario eich arhosiad ac mae amrywiaeth o weithgareddau awyr agored cyffrous ar gael trwy staff cymwys a phrofiadol y ganolfan. Mae arlwyo ar gyfer dros 100 o bobl ar gael. Mae nifer o ystafelloedd cymdeithasol yn caniatáu lle i ymlacio, mae gan yr ystafell gemau fyrddau pŵl a thenis bwrdd. Mae yna storfa fawr ar gyfer beiciau, caiacau a byrddau syrffio ac ystafelloedd gotiauunigol ar gyfer dillad awyr agored. Parcio ceir ar gael a maes mawr ar gyfer gweithgareddau. Gellir bwyta allan yn lleol yn Nhŷ Tafarn Glyntwrog, sydd yn ddim ond 200m i ffwrdd.
Mwynderau
- Darperir ar gyfer deiet arbennig
- Peiriant golchi ar y safle
- Croesewir teuluoedd
- Arhosfan bws gerllaw
- Gweithgareddau awyr agored gerllaw
- Dillad gwely ar gael i’w hurio
- Croeso i bartion bws
- Gardd
- WiFi ar gael
- Gorsaf tren gerllaw
- Llofft llawr gwaelod
- Parcio
- Cawod
- Cyfleusterau plant
- Croesewir grwpiau