Tŷ'n Rhos Country House
- 1 Stars
- 2 Stars
- 3 Stars
- 4 Stars
- 5 Stars
Croeso i Dŷ Gwledig Tŷ’n Rhos, wedi’i leoli yng nghanol bryniau tonnog Eryri, mae’r gyn fferm laeth yma wedi’i thrawsnewid i lety nodweddiadol 5* seren, yn cynnwys 19 ystafell wely unigryw en-suite.
Wrth gamu i mewn i’r tŷ gwledig, sy’n cael ei reoli gan deulu, cewch eich croesawu gan lolfa glyd, bar coeth ac ystafell fwyta a weinir bwydydd a diodydd lleol, gwinoedd cain a choctels pwrpasol.
Mae ein bwyty ac ein tŷ gwydr llydan yn cynnig golygfeydd anhygoel dros y teras ac ein gardd, gan gynnwys golygfeydd panoramig draw am Ynys Môn.
Yn ein lleoliad distaw, gwledig gellir cwtsio lawr am y nos, gyda’r sicrwydd o noson tawel o gwsg cyn dechrau ar anturiaethau y diwrnod canlynol.
Mwynhewch frecwast hamddenol pob bore, sy’n cynnwys cynnyrch leol a goginir fesul archeb. Boed yn dewis brecwast llawn Cymreig galonnog, neu’r salad ffrwythau gyda miwseli cartref a iogwrt naturiol leol, maent yn siŵr o’ch paratoi am y diwrnod o’ch blaen.
Tŷ’n Rhos yw eich ‘cartref oddi cartref’ moethus. Lle i ymlacio, gorffwys ac ail-ddechrau – dihangfa cynefinol oddi wrth brysurdeb bywyd pob dydd.
Wedi’i leoli ym bryniau Eryri, dim ond tair milltir o’r A55, Tŷ’n Rhos yw’r man aros perffaith ar gyfer gwyliau byr, gan eich galluogi i archwilio y gorau o Ogledd Cymru. Darganfyddwch y cildraethau cudd ar hyd arfordir Llŷn, crwydrwch drwy bentrefi mynyddig darluniadwy sydd wedi’i coroni gan gopaon garw a chloddiwch mewn i hanes gyfoethog y chwareli llechi Cymreig a’r cestyll canoloesol – Tŷ’n Rhos yw eich mynedfa i ‘ryfeddodau Gogledd Cymru.
Mwynderau
- Caffi/Bwyty ar y safle
- Derbynnir cardiau credyd
- Gardd
- Llofft llawr gwaelod
- Cadair uchel ar gael
- Mynediad i’r rhyngrwyd
- Trwyddedig/Trwydded Fwrdd/Bar neu Glwb Trwyddedig
- Gellir gadael y trefniadau yng ngofal trefnydd teithio
- Dim Ysmygu
- Parcio
- Caniateir anifeiliaid anwes drwy drefniant
- Darperir ar gyfer deiet arbennig
- Te/Coffi
- Dim ysmygu o gwbl
- Teledu yn yr ystafell/uned
- Telerau arbennig i fwrw’r Sul, ganol wythnos neu wyliau byrion ar gael
- WiFi ar gael
- Adeilad hanesyddol/heneb gerllaw
- Croesewir grwpiau
- Llwybr beicio Ffordd Brailsford Way gerllaw
- Cylchdaith Llwybr Arfordir Cymru gerllaw
- Llwybr Arfordir Cymru gerllaw
- Llwybr beicio gerllaw
- Llwybr beicio Sustrans gerllaw