Parc Gwledig Padarn
Nid yw’r disgrifiad ‘Parc Gwledig' yn gwneud cyfiawnder â’r lleoliad hwn. Wedi’i leoli o amgylch Llyn Padarn, mae pob dim ar gael yma, o chwaraeon dŵr i gerdded, o fywyd gwyllt i dreftadaeth ddiwydiannol, o goetiroedd i olygfeydd mynyddig i’ch ysbrydoli.
Mae yna lawer o atyniadau yn y parc gan gynnwys ysbyty'r chwarel, Rheilffordd Llyn Padarn, Ropeworks Active, Boulder Adventures, Pheonix Watersports a'r Sawna Bach sydd newydd agor wrth ochr y Llyn.
Mae yno weithdai sy'n gartref i Odyn Copr, Padarn Pottery a Gwdihw.
Mae gwaith yn cael ei wneud yn y parc ar hyn o bryd sy'n cynnwys adeiladu bloc toiled newydd, adfer inclein A, dychwelyd injan y Fire Queen ac adfer Hafod Owen a'r strwythurau o fewn Chwarel Vivian.
Mae'r Amgueddfa Lechi ar gau ar hyn o bryd gan fod prosiect ailddatblygu cyffrous yn mynd ymlaen yno. Bydd y prosiect yn rhoi bywyd newydd i’r amgueddfa boblogaidd a bydd yn gwarchod ein hadeiladau hanesyddol gwych a chasgliadau pwysig fel bod cenedlaethau’r dyfodol yn gallu profi a mwynhau hanes anhygoel llechi. Er hynny mae'r amgueddfa yn trefnu digwyddiadau mewn llefydd cyfagos felly cadwch olwg ar y cyfryngau.
Mwynderau
- Parcio (Bws)
- Arhosfan Sherpa gerllaw
- Siaradir Cymraeg
- Yn agos i gludiant cyhoeddus
- Parcio
- Adeilad hanesyddol/heneb gerllaw
- Llwybr beicio Ffordd Brailsford Way gerllaw