Canolfan Treftadaeth Llys Ednowain
Cewch hanes trawiadol Trawsfynydd yma yn Llys Ednowain gyda'n arddangosfa unigryw amlgyfrwng. Dysgwch am gymunedau yr Oes Efydd a'r Oes Haearn ar y Cracwellt a chewch weld copi o Tancard Trawsfynydd - tancard efydd cain Celtaidd, yn null La Tene, yn dyddio o 100CC. Cewch weld a dysgu pam bod cymaint o olion Rhufeinig yn yr ardal, megis Tomen y Mur a lôn Rhufeinig Sarn Helen. Mae'r hanes yma, a mwy, yn eich disgwyl yn Llys Ednowain gan gynnwys ein prif arddangosfa amlgyfrwng - Y Sant a'r Bugail - am fywydau dau o feibion mwyaf enwog Trawsfynydd, Sant John Roberts a Hedd Wyn.
Mwynderau
- Yn agos i gludiant cyhoeddus
- Siaradir Cymraeg