Gerddi Plas Brondanw
Rhoddwyd Plas Brondanw i Syr Clough Williams-Ellis gan ei dad ym 1902. Y gerddi ym Mhlas Brondanw yw’r enghraifft orau o ddawn Syr Clough i dirlunio’n greadigol. Tua dechrau’r ugeinfed ganrif y crëwyd y prif nodweddion cyn iddo ddechrau Portmeirion, ond parhaodd y gwaith yn ysbeidiol tan y 1960au. Creodd Syr Clough dirwedd gardd nodweddiadol ac unigryw sy’n cynnig cyfres o olygfeydd dramatig a rhamantus rhwng môr a mynydd, gyda Pharc Cenedlaethol Eryri a’r Wyddfa yn gefnlen iddynt. Gerddi o oes y dadeni yn yr Eidal oedd yr ysbrydoliaeth, ac mae dylanwadau pensaernïol cryf i’w gweld yng ngerddi’r Plas, waliau cerrig, tocwaith a rhodfeydd o goed yn arwain y llygad at y mynyddoedd mawreddog y tu hwnt.
Mwynderau
- Caffi/Bwyty
- Siop
- Croeso i deuluoedd
- Yn agos i gludiant cyhoeddus
- Llwybr beicio Ffordd Brailsford Way gerllaw