Zip World Bounce Below
Dyma syniad anhygoel! Ogof anferth sydd ddwywaith maint Cadeirlan St. Paul, gyda thrampolinau a rhwydi anferth wedi’u clymu ar ei draws. A dyna ni - profiad tanddaearol unigryw peniwaered! Mae yma wifren zip tanddaearol hefyd. Dyma’r atyniad cyntaf o’i fath yn y byd. Rhowch gynnig arni! Dyma fidio o holl weithgareddau Zip World sydd ar gael yn yr ardal.
Gwobrau
Mwynderau
- Yn agos i gludiant cyhoeddus
- Llwybr beicio Ffordd Brailsford Way gerllaw
- Archebu ar-lein ar gael