Yr Ysgwrn

Trawsfynydd, Gwynedd, LL41 4UW

Retail Phone Number Phone Number icon for Snowdonia retail page 01766 772508

Retail Email Email icon for Snowdonia retail page yr.ysgwrn@eryri.llyw.cymru

Retail Screen Screen icon for Snowdonia retail page http://www.yrysgwrn.com/cym

Nid oes rhyfedd mai milwr anfodlon oedd Hedd Wyn wrth i chi sefyll ar aelwyd Yr Ysgwrn ar ddyddiau hir o haf. Ei gartref oedd ei fwyniant, ei gynefin oedd ei nefoedd, a'i bensil oedd ei unig arf. Yn fardd hunan ddysg i bob cyfri, meistrolodd allu ar linellau anoddaf o farddoniaeth Cymraeg, sef y gynghanedd, erbyn iddo droi'n ddeuddeg oed. Does prin syndod felly iddo guro prif wobr llenyddiaeth Cymraeg, cadair yr Eisteddfod Genedlaethol. Ond, yn ddiarwybod i'r miloedd oedd yn bresennol yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw, 1917 chwe' wythnos cyn i'r Archdderwydd gyhoeddi mai 'Fleur-di-Lis' oedd yn fuddugol am y gadair ar lwyfan ar gyrion dinas Lerpwl. Saethwyd Hedd Wyn yn ei stumog a bu farw islaw'r tân gwyllt o fwledi a mortar mewn cae ymhell i ffwrdd o gaeau Trawsfynydd. Ni chafodd erioed y neges ei fod yn Brifardd.

Nid ffermdy Cymreig cyffredin yw'r Ysgwrn. Un o brif resymau prynwyd y lle gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ym mis Mawrth 2012 yw'r hanes a symboliaeth mae'r lle yn gynrychioli. Mae'r cartref yn adlewyrchiad cyfnod o hanes cymdeithasol, diwylliant ac amaethyddiaeth ar droad yr G20. Mae bywyd a marwolaeth Hedd Wyn yn cynrychioli cenhedlaeth gyfan o ddynion ifanc o Gymru, Prydain ac Ewrop aberthodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Gwaith cadwraethol Yr Ysgwrn ym Mharc Cenedlaethol Eryri ymysg enillwyr Gwobrau Treftadaeth Ewrop / Gwobrau Europa Nostra 2019.

Gwobrau

  • Thumbnail

Mwynderau

  • Croeso i bartion bws
  • Parcio
  • Parcio (Bws)
  • Caffi/Bwyty ar y safle
  • Siaradir Cymraeg
  • Toiled