Pedal MTB
Coed Y Brenin Forest Park, Dolgefeiliau, Dolgellau, Gwynedd, LL40 2HZ
Mae MTB Pedal yn cynnig hyfforddiant sgiliau beicio mynydd, reidiau tywys, cyrsiau E-MTB a hyfforddiant arweinyddiaeth. Maent wedi'u lleoli ym mharc byd-enwog Coed Y Brenin, y gwreiddiol, ac yn dal i fod yn un o'r canolfannau llwybrau gorau yn y byd. Mae'r rhwydwaith helaeth o lwybrau a maes sgiliau yn golygu bod rhywbeth i bawb a gyda help Pedal MTB gallwch chi ddysgu i fanteisio i'r eithaf ar reidio eich beic. P'un ai ydych chi'n reidiwr profiadol yn edrych i archwilio llwybrau ceffylau Gogledd Cymru neu grŵp teulu sy'n edrych i gael amser gwych gyda'i gilydd ar ddwy olwyn, mae Pedal MTB yn gallu edrych ar ôl y cyfan. Mae yna hefyd gaffi, llwybrau cerdded, man chwarae a llawer iawn mwy ar y safle, felly beth am ddod draw i'r goedwig am y dydd. Os nad oes gennych chi eich beic eich hun, mae partneriaid Pedal MTB yn Beics Brenin (wedi'w lleoli ar y safle) yn gallu eich helpu chi.