Beics Brenin
Fel canolfan llwybr beicio mynydd pwrpasol cyntaf a mwyaf y DU, mae gan Coed y Brenin nid yn unig filltiroedd o drac sengl eithriadol ar gyfer beicwyr profiadol ac arbenigol, ond hefyd llwybrau teulu a chanolradd gwych ar gyfer pob gallu. Mae Beics Brenin yn stocio ystod eang o ategolion a beiciau, er mwyn sicrhau eich bod yn cael y gorau o'ch ymweliad â Choed y Brenin ac, drws nesaf, mae caffi'r ganolfan ymwelwyr yn gweini ystod wych o ddiodydd a chacennau a phrydau wedi'u coginio gartref.