De Niros
Mae DeNiros yn gaffi teulu cyfeillgar sy'n darparu ar gyfer pob chwaeth. Mae yma fwydlen amrywiol o frecwast i 'hot-pot' cig oen cartref, tsili i lasagne, pysgod a sglodion a brechdanau. Mae yna sawl opsiwn fegan a llysieuol ar gael. Mae dewis eang o bwdinau traddodiadol gan gynnwys 'Jam Sponge' a 'Spotted Dick' gyda chwstard. Mae ganddynt drwydded i werthu alcohol ac mae yma dewis eang o gwrw lleol, gwinoedd a gwirodydd.