Traeth Harlech

Harlech, Gwynedd, LL46 2UG

Yn goruchwylio dros draeth anferth, heddychlon Harlech, y mae’r Castell nerthol, sy’n Safle Treftadaeth y Byd. Caiff mynediad gwych i’r traeth diolch i’r llwybr 440yard/400m oddi wrth y maes parcio, sydd gerllaw i’r groesfan rheilffordd. Nid yw tirwedd y traeth yn hollol fflat, ceir twyni tywod prydferth yma, ac nid yn unig eu bod yn atyniad i ymwelwyr ond maent hefyd yn ‘Warchodfa Natur Genedlaethol’ ac yn ‘Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig’. Mae’r traeth yn le delfrydol i blant chwarae ac yn le hyd yn oed gwell i oedolion ymlacio. Mae cyfyngiadau ar gŵn ar rai mannau o'r traeth. Gerllaw’r traeth ceir siop, mannau bwyta ac un o glybiau golff fwyaf enwog yn sgil ‘Royal St.David’s Golf Club’. Hawdd i’w dod o hyd i’r traeth, diolch i ddigonedd o arwyddion clir.

Rhybudd Diogelwch Traeth Harlech

Dilynwch ganllawiau Mentra’n Gall a’r RNLI i gael mwyniant diogel o’n arfordir. 

Byddwch yn ymwybodol o’r peryglon canlynol ar draeth. 

  • Byddwch yn wyliadwrus o gerrynt cryf
  • Gofal - tonnau mawr yn torri
  • Cymerwch ofal gydag offer enchwythedig mewn gwynt cryf
  • Byddwch yn wyliadwrus o gychod pŵer
  • Peidiwch a tyllu na thyrchu yn y twyni tywod
  • Cadwch blant dan oruchwyliaeth 

Mewn argyfwng galwch 999 a gofynnwch am Wylwyr y Glannau

Mwynderau

  • Parcio
  • Toiled
  • Yn agos i gludiant cyhoeddus
  • Siop