Traethau Borth-y-Gest
Borth y Gest, Porthmadog, Gwynedd, LL49 9TY
Lleolir Traethau Borth-y-Gest ym mhentref bychan, prydferth Borth-y-Gest ger Porthmadog. Gallwch gael mynediad i'r traethau o faes parcio'r pentref drwy ddilyn arwyddion Llwybr Arfordir Cymru tua'r gorllewin gan fynd heibio i dai teras.
Rhybuddion Diogelwch Traethau Borth-y-Gest
Dilynwch ganllawiau Mentra’n Gall a’r RNLI i gael mwyniant diogel o’n arfordir.
Byddwch yn ymwybodol o’r peryglon canlynol ar draeth Borth-y-Gest. Edrychwch am yr arwyddion coch sy’n cynnwys gwybodaeth perthnasol am y rhan hynny o’r traeth.
- PERYGL – Cerrynt cryf iawn
- PERYGL – Llif llanw cyflym
- PERYGL – Traeth graddfa serth, dŵr dwfn
- Byddwch yn wyliadwrus o fadau pŵer a chychod hwylio
- Peidiwch â chael eich dal ar y banciau tywod neu ar y creigiau gan y llanw
- Byddwch yn wyliadwrus o dywod a mwd meddal
- Gwrthrychau tanddwr
- Llwybrau serth ag anwastad
- Ni chynghorir nofio neu ymdrochi
- Peidiwch â defnyddio offer enchwythedig neu fyrddau arnofio