Castell Harlech
Ymestyn murfylchau castell Harlech allan o wyneb craig serth. ‘Rhyfelgyrch Gwŷr Harlech’. Dyma anthem answyddogol Cymru, sy’n boblogaidd gyda chefnogwyr rygbi a bandiau catrodol. Mae’r gân yn disgrifio’r gwarchae a fu yma yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnod, lle brwydrodd llond dwrn o ddynion yn erbyn byddin ymosodol yn cynnwys miloedd o filwyr. Adeiladwyd model ‘muriau o fewn muriau’ llwyddiannus Edward yn gyflym iawn rhwng 1283 a 1295 gan fyddin o bron i fil o grefftwyr a llafurwyr medrus. Dim ond y seiri maen gorau o Savoy a ddefnyddiai Edward, a’r seiri coed a’r gofaint gorau o Loegr. Ar y pryd, dyma oedd un o gestyll rhataf Edward. Bargen am ddim ond £8,190. Mae’r strwythur, a oruchwyliwyd gan feistr gwaith y brenin, James of St. George, yn cynnwys dau gylched o furiau a thyrau a phorthdy dwyreiniol hynod gryf. Roedd hi’n amhosibl codi gwarchae o unrhyw gyfeiriad bron. Ei arf cudd oedd grisiau 200 troedfedd (61m) o hyd sy’n dal i arwain o’r castell at waelod y clogwyn. Roedd y mynediad i lawr y grisiau i’r môr a chyflenwadau hanfodol yn sicrhau bod bwyd a dŵr ar gael i’r rheini a oedd o dan warchae. Pan gafodd ei adeiladu gyntaf, byddai sianel wedi cysylltu’r castell a’r môr. Gellid bod wedi hwylio cwch i fyny hyd at y ffos. Saith can mlynedd yn ddiweddarach, mae’r llanw wedi cilio ac ymddengys fel pe bai’r castell wedi’i adael ar ôl, yn aros i’r llanw droi unwaith eto. Mae’r bont ‘arnofio’ newydd yng Nghastell Harlech yn golygu bod pawb yn gallu cael mynediad i’r castell. Mae’r bont yn cysylltu’r castell gyda’r ganolfan ymwelwyr newydd yn hen adeilad Gwesty’r Castell. Fel sy’n wir am Gastell Caernarfon, Castell Conwy a Chastell Biwmares, bu’r heneb hon yn rhan o Cestyll a Muriau Trefol Edward 1 Safle Treftadaeth y Byd ers 1986.
Gwobrau
Mwynderau
- Caffi/Bwyty
- Siop
- Arhosfan bws gerllaw
- Yn agos i gludiant cyhoeddus
- Llwybr Arfordir Cymru gerllaw
- Croesewir grwpiau