Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri
Dwy reilffordd lein gul sy’n llawn apêl. Adeiladwyd y rheilffordd 13½-milltir o Borthmadog i Flaenau Ffestiniog yn wreiddiol i gario llechi. Bellach mae’n un o’r teithiau Trenau Bach mwyaf poblogaidd. Mae Rheilffordd Ucheldir Cymru yn teithio o Gaernarfon i Borthmadog drwy rai o olygfeydd mynyddig mwyaf trawiadol Eryri a bydd Bwlch Aberglaslyn yn sicr o’ch syfrdanu – mae’r lein yn 25 milltir ar ei hyd a dyma reilffordd dreftadaeth hiraf Prydain. Teithiwch ar y ddwy reilffordd a chewch daith hamddenol o bron i 80 milltir yno ac yn ôl!
Gwobrau
Mwynderau
- Caffi/Bwyty
- Toiled
- Croesewir teuluoedd
- Parcio
- Derbynnir cardiau credyd