Chwarel Hên Llanfair
Mae'r llechen yn y gloddfa yma, sydd i'w ddarganfod mewn gwythiennau rhwng haenau o greigiau y cyfnod cyn - Gambraidd, ymysg y rhai hynaf yn y byd. Mae llawer o drefi diwydiannol Prydain ac Iwerddon wedi eu toi gyda llechi Llanfair. Ewch i lawr Grisiau Jacob a chrwydro trwy twnneli a siambrau i ddarganfod hen dyllau drilio, a thebygrwydd i wyneb dynol yn ogof anferth rhif 6. Wrth i chi ddod allan o'r ceudyllau, mi fyddwch yn gweld golygfeydd godidog Bae Ceredigion, o fynyddoedd y Preseli yn y de, draw at Benrhyn Llŷn . Edrychwch i lawr tuag at Ynys Mochras ac aber yr Afon Artro, ac ar lanw isel mae'n bosib gweld olion sarn Sant Padrig, sydd yn 14 milltir o hyd
Gwobrau
Mwynderau
- Llwybr Arfordir Cymru gerllaw
- Croeso i bartion bws
- Caffi/Bwyty ar y safle
- Cyfleusterau plant