Snowdonia Nordic Walking
Lansiwyd Snowdonia Nordic Walking yn 2020 - Ymunwch â nhw i ddysgu sgil newydd, cadw'n heini, a gweld rhai o olygfeydd harddaf Eryri. Dewiswch rhwng sesiwn Blasu 90 munud, neu Brofiad Hanner Diwrnod - y ddau yn addas ar gyfer dechreuwyr llwyr. Mae llogi polyn, parcio a hyfforddiant wedi'i gynnwys!
Mae Snowdonia Nordic Walking yn gweithredu o fferm yng nghanol Eryri, gyda theithiau cerdded hardd di-ben-draw ar eu stepen drws. Maent yn cymryd grwpiau o rhwng 2 a 10 o bobl sy'n sicrhau profiad personol a chymorth, hyfforddiant a sylw parhaus gan eich hyfforddwr. Ar eu teithiau cerdded byddwch yn gweld rhai o fynyddoedd harddaf Eryri a bydd eich hyfforddwr yn hapus i rannu gwybodaeth leol, hanes, a dealltwriaeth hefo chi wrth gerdded.
I archebu slot, dewiswch pa fath o sesiwn rydych chi ei heisiau, a chysylltwch â nhw i drefnu eich dyddiad.