The Rocks at Plas Curig Hostel
- 1 Stars
- 2 Stars
- 3 Stars
- 4 Stars
- 5 Stars
Wedi'i leoli yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri trawiadol, mae'r hostel 5 seren yma, sy'n croesawu cŵn, yn eistedd ychydig oddi ar yr A5, prif wythïen Eryri. Gellir dod o hyd iddo'n nythu ychydig funudau i ffwrdd o Fetws-y-Coed, Dyffryn Ogwen a'r Wyddfa. Os mai lleoliad yr ydych ar ei ôl, yna mae The Rocks ym Mhlas Curig yn cynnig y sylfaen berffaith i chi ei harchwilio. Gyda theithiau cerdded syfrdanol yn uniongyrchol o'r drws, o'r dechreuwr i'r arbenigwr gallwch fod ar ben mynydd fil o fetrau uwchben lefel y môr yn y bore ac eistedd ar dywod hardd un o draethau baner las niferus yr ardal yn y prynhawn.
Mwynderau
- Croesewir teuluoedd
- Telerau arbennig i fwrw’r Sul, ganol wythnos neu wyliau byrion ar gael
- Cadair uchel ar gael
- Arhosfan bws gerllaw
- Dillad gwely ar gael
- Te/Coffi
- Caniateir anifeiliaid anwes drwy drefniant
- WiFi ar gael
- Derbynnir cardiau credyd
- Llofft llawr gwaelod
- Parcio
- Cawod
- WiFi am ddim
- Croesewir grwpiau
- Arhosfan Sherpa gerllaw
- Beicio mynydd gerllaw
- Llwybr cerdded gerllaw
- Llwybr beicio Ffordd Brailsford Way gerllaw