Rhaeadr Ewynnol
Mae'r rhaeadr ysblennydd hwn ar Afon Llugwy wedi dod yn enwog ac yn adnabyddus dros y 100 mlynedd diwethaf, ac wedi ymddangos ar ffilm, cerdyn post a chynfas. Er bod y prif fannau gwylio ar lan ddeheuol y Llugwy, gyda digon o le parcio ar hyd yr A5 ac o fewn maes parcio'r gwesty, fe'i gwelir yn llawer mwy dramatig os cyrchir ar droed ar hyd y lan ogleddol.