Gwesty Minffordd
Mae Gwesty Minffordd Hotel yn llawer mwy na gwesty yn Eryri, yn hytrach mae'n encil hudolus gyda bwyty da a bar clyd yn gweini ystod dda o winoedd a chwrw lleol traddodiadol. Yn yr oes a fu, tafarn ar gyfer porthmyn oedd Minffordd, gyda rhan wreiddiol y gwesty yn 450 mlwydd oed, ac mae wedi'i leoli ar droed Cader Idris. Mae dechrau'r Llwybr Minffordd i'r copa yn llythrennol yn yr ardd gefn, neu 2 funud o gerdded o'r drws ffrynt! Gweinir bwyd yn ddyddiol yn y bwyty bach clyd, traddodiadol. Gan ddefnyddio y cynhwysion gorau, gan ddarparwyr lleol, mae prydau bwyd syml, ond wedi eu cyflwyno a'u coginio yn dda, yn cael eu gweini. Gellir darparu ar gyfer anghenion dietegol arbennig.