Caffi Corris
Mae bwydlen trwy'r dydd Caffi Corris yn gyfuniad croesawgar o'r cynhwysion Cymreig gorau, ryseitiau lleol a seigiau blasus. Mae'r ci poeth archwaethwr yn ffefryn cadarn, lle mae hyd yn oed y selsig yn cael eu gwneud yn arbennig gan gigydd lleol blaenllaw. Gwneir y byrgyrs gyda chig eidion Cymreig blasus, ac mae'r caws pob anorchfygol yn cyfuno Cheddar Cymreig gydag chwrw Mŵs Piws. Mae sgons ffres yn cael eu pobi'n ddyddiol a wastad yn gwerthu allan yn gyflym. Mae'r coffi wedi ei rostio yng Ngogledd Ddwyrain Cymru a'i weini gan faristas wedi eu hyfforddi.
Mwynhewch De Prynhawn blasus i 2 gyda dewis o frechdanau, quiches bach, brioche gyda chaws pob ar ei ben a chacennau ffres. Ffoniwch nhw i archebu eich te prynhawn ymlaen llaw.
Dewiswch fwyta dan do, gyda hyd at 80 o seddi yn y caffi mae'n berffaith ar gyfer prydau grŵp, neu eisteddwch wrth fyrddau picnic y tu allan lle gallwch fwynhau golygfeydd godidog Canolbarth Cymru. Mae'r ardal eistedd awyr agored yn edrych dros y Mach Loop, ardal hyfforddi a ddefnyddir gan yr Awyrlu Brenhinol a'r USAF ar gyfer eu hawyrennau cyflym sy'n hedfan yn isel, felly efallai y cewch eich trin i arddangosfa awyr rhad ac am ddim hefyd.
Mae Caffi Corris yn ymyl 9 uned Canolfan Crefft Corris, Labrinth y Brenin Arthur a Corris Mine Explorers.