The Candle Studio
Uned 6, Canolfan Grefft Corris, Corris, Gwynedd, SY20 9RF
Mae'r Candle Studio yn gwneud ac yn gwerthu ystod eang o ganhwyllau. Mae ardal y gweithdy i'w weld yn llwyr a gall ymwelwyr weld sut maen nhw'n gweithio gan ddefnyddio'r gwahanol ddulliau ar gyfer gwneud eu hamrywiaeth eang o gynhyrchion. Mae eu hystod cynnyrch yn cynnwys canhwyllau cerfiedig a pheraroglus, canhwyllau traddodiadol, canhwyllau newydd-deb a chanhwyllau sy'n addas i'w defnyddio yn yr awyr agored. Gall ymwelwyr wneud eu pâr eu hunain o ganhwyllau wedi'u dipio â llaw. Fe'ch cynghorir i archebu yn ystod cyfnodau prysur. Bydd sesiwn gwneud canhwyllau yn parhau tua 15 munud ac mae gweithdai yn rhedeg bob 15 munud.