Dyfi Distillery
Distyllfa jin unigryw yng Ngwarchodfa Biosffer UNESCO Dyfi. Yr unig ddistyllfa sydd wedi ennill Gwobr Jin Prydeinig Gorau yng Ngwobrau Bwyd Prydain Fawr ddwywaith, ac yn gartref i'r jin Pollination ac i'r jin Hibernation. Mae'r teulu yn croesawu ymwelwyr chwilfrydig yn bersonol, a gallwch weld y broses distyllu, blasu (os ydych chi dros 18 oed) a sgwrsio gyda'r cynhyrchwyr. Mae'r ardal ymwelwyr yn cynnwys arwyddfyrddau sy'n adrodd y stori o sut mae jin yn cael ei gynhyrchu, a gwybodaeth am y nifer helaeth o'r cynhwysion botanegol sy'n cael eu fforio â llaw ar gyfer cynhyrchu'r gwirodydd arobryn yma.
Mae 'Dovey Native Botanical Gin' wedi derbyn statws Dynodiad Daearyddol y DU (UKGI) a dyma'r jin cyntaf yn y DU i gyflawni'r anrhydedd hon.
Mwynderau
- Yn agos i gludiant cyhoeddus
- Llwybr beicio Sustrans gerllaw
- Arhosfan bws gerllaw
- Siop
- Caffi/Bwyty ar y safle
- Derbynnir Cŵn