Dyfi Distillery

Corris, Gwynedd, SY20 9RF

Retail Phone Number Phone Number icon for Snowdonia retail page 01654 761551

Retail Email Email icon for Snowdonia retail page danny@dyfidistillery.com

Retail Screen Screen icon for Snowdonia retail page https://www.dyfidistillery.com/

Distyllfa jin unigryw yng Ngwarchodfa Biosffer UNESCO Dyfi. Yr unig ddistyllfa sydd wedi ennill Gwobr Jin Prydeinig Gorau yng Ngwobrau Bwyd Prydain Fawr ddwywaith, ac yn gartref i'r jin Pollination ac i'r jin Hibernation. Mae'r teulu yn croesawu ymwelwyr chwilfrydig yn bersonol, a gallwch weld y broses distyllu, blasu (os ydych chi dros 18 oed) a sgwrsio gyda'r cynhyrchwyr. Mae'r ardal ymwelwyr yn cynnwys arwyddfyrddau sy'n adrodd y stori o sut mae jin yn cael ei gynhyrchu, a gwybodaeth am y nifer helaeth o'r cynhwysion botanegol sy'n cael eu fforio â llaw ar gyfer cynhyrchu'r gwirodydd arobryn yma. Mae wedi'i amlygu ar y teledu a'r radio yn y DU a thramor, gan gynnwys rhaglen Kate Humble, Off The Beaten Track, ac fe'i enwyd yn un o brofiadau jin gorau yn 2018 gan yr Independent. Mae croeso i gŵn a gan ei fod wedi ei gyd-leoli efo Canolfan Grefft Corris a Labyrinth y Brenin Arthur, mae parcio am ddim, ac mae nifer o resymau diddorol eraill i ymweld yma.

Mwynderau

  • Yn agos i gludiant cyhoeddus
  • Llwybr beicio Sustrans gerllaw
  • Arhosfan bws gerllaw
  • Siop
  • Caffi/Bwyty ar y safle
  • Derbynnir Cŵn