The Old Farmhouse
- 1 Stars
- 2 Stars
- 3 Stars
- 4 Stars
Mwynhewch y gwesty cyfforddus yma yn ein ffermdy anffurfiol, cyfeillgar sydd wedi ei adnewyddu. Mae o’n ganolfan perffaith i deithio yn Eryri, cerdded, neu dim ond ymlacio wrth ein pwll nofio mawr allanol a spa cynnes(ar agor yn dymhorol o Ebrill hyd at Medi) wrth fwynhau golygfeydd godidog Eryri a’r arfordir. Mae’r ardal yma o Eryri Gudd yn cynnig rhywbeth at ddant bawb, gyda 5 milltir o un o draethau Baner Las prin Prydain. Mae nifer mawr o gestyll, mannau hanesyddol ac atyniadau ymwelwyr, yn cynnwys chwareli llechi, trenau bach Cymru, Portmeirion a llawer taith cerdded o bob math. Mae lonydd tawel gwledig ar gyfer beicwyr a golygfeydd bendigedig, i gyd ar garreg ein drws neu o yn agos mewn modur. Mae’r Hen Ffermdy wedi ei leoli 350 troedfedd uwchben lefel y môr, ac yn edrych allan dros Fae Ceredigion a Phenrhyn Llŷn mewn 1½ erw o ardd, ac yn dyddio’n wreiddiol o tua 1600. Mae’n cynnig yr awyrgylch draddodiadol o hen ffermdy gyda budd pob cyfleuster modern. Mi fydd Tim a Sally Knight yn sicrhau eich bod yn derbyn croeso cynnes a gwasanaeth gwych mewn awyrgylch bendigedig gyda golygfeydd ysblennydd o Benrhyn Llŷn. Yr ydym yn croesawu cerddwyr, beicwyr, beicwyr modur ac yn derbyn anifeiliaid anwes, gyda chyfleusterau a storfa i gadw yr holl offer angenrheidiol yn cynnwys garej dan glo.
Mwynderau
- Derbynnir cardiau credyd
- En-Suite
- Gardd
- Llofft llawr gwaelod
- Parcio
- Caniateir anifeiliaid anwes drwy drefniant
- Yn agos i gludiant cyhoeddus
- Darperir ar gyfer deiet arbennig
- Pwll nofio
- Te/Coffi
- Dim ysmygu o gwbl
- Teledu yn yr ystafell/uned
- Llwybr Arfordir Cymru gerllaw