North Lodge
- 1 Stars
- 2 Stars
- 3 Stars
- 4 Stars
- 5 Stars
Mae North Lodge yn dyddio'n ôl i 1790 ac, yn y gorffennol, roedd yn borthdy i Neuadd Cors-y-Gedol. Mae'n sefyll yn falch yn ei draean erw ei hun o ardd, dim ond dau funud o draethau tywodlyd a mynyddoedd garw. Dim ond taith gerdded pum munud sydd yna i lawr i Draeth Benar, a ddyfarnwyd Gwobr yr Arfordir Gwyrdd iddo am ei amgylchedd traeth a'i ddŵr glân. O fewn hanner milltir mae yna ddetholiad o siopau, tafarn a bwyty Eidalaidd. Cofiwch ddod â'ch beiciau, mae'r llwybrau beicio yn wych, ac mae gan Coed-y-Brenin rai llwybrau garw diddorol iawn i'w goresgyn. Dim ond tair milltir sydd yna i gyrchfan glan môr brysur Abermaw, gyda'i nifer o lefydd bwyta a siopau, a phum milltir i'r de o dref hanesyddol Harlech, gyda'i chastell a'i chwrs golff godidog. Mae yna ehangder deng milltir mwyaf gogoneddus o draethau tywodlyd o Harlech i Abermaw.
Mwynderau
- Mannau ar gael ar gyfer ysmygwyr
- En-Suite
- Peiriant golchi ar y safle
- Croesewir teuluoedd
- Telerau arbennig i fwrw’r Sul, ganol wythnos neu wyliau byrion ar gael
- Cadair uchel ar gael
- Arhosfan bws gerllaw
- Gweithgareddau awyr agored gerllaw
- Dillad gwely ar gael
- Gardd
- Te/Coffi
- Siaradir Cymraeg
- Cot ar gael
- Caniateir anifeiliaid anwes drwy drefniant
- Adeilad hanesyddol/heneb gerllaw
- Golff ar gael (ar y safle neu gerllaw)
- Llwybr Arfordir Cymru gerllaw
- Parcio
- Cawod
- WiFi am ddim
- Golchdy
- Traeth gerllaw
- Beicio mynydd gerllaw
- Llwybr beicio gerllaw
- Llwybr cerdded gerllaw