Amgueddfa Forwrol Llŷn
Mae gan Amgueddfa Forwrol Llŷn gasgliad diddorol o tua 400 o arteffactau cysylltiedig â’r môr a hanes tref Nefyn a’r cylch, yn cynnwys lluniau, creiriau, modelau, cychod, angorau, ffotograffau a dogfennau.Mae yna arteffactau o longddrylliadau er enghraifft rhan o blât enw y Royal Charter, angor y Vella, llestri a photeli wisgi o’r Stuart a longddrylliwyd yn 1901. Cewch weld offerynnau morwrol fel cwmpawdau, secstantau ac ysbienddrychau. Yn y casgliad hefyd mae arfau seiri llongau. Câi llawer eu hadeiladu’n lleol gan ddefnyddio’r arfau hyn ar draethau Nefyn a Phorthdinllaen yn yr 19eg ganrif. Mae gan yr amgueddfa hefyd amrywiaeth eang o eitemau o fywyd ar fwrdd llong ac eitemau a ddygai morwyr gartref o’u teithiau. Mae 18 model llong yng nghasgliad yr amgueddfa. Mae yna hefyd beintiadau o longau, printiadau o olygfeydd lleol, posteri a mapiau. Mae casgliad diddorol o hen ffotograffau gennym hefyd o forwyr, pobl a lleoedd lleol. Ymhlith yr eitemau eraill o ddiddordeb yn y casgliad y mae baneri - tua 30 baner a phennant – cwmnïau llongau a baneri arwyddion rhyngwladol. Cafodd rhai o’r rhain eu hadfer yn ddiweddar i’w harddangos yn yr amgueddfa.
Gwobrau
Mwynderau
- Caffi/Bwyty
- Llwybr Arfordir Cymru gerllaw
- Arhosfan bws gerllaw
- Croesewir teuluoedd
- Yn agos i gludiant cyhoeddus
- Cylchdaith Llwybr Arfordir Cymru gerllaw
- Croesewir grwpiau
- Croeso i deuluoedd