Treddafydd Organic
Fferm organig Ardystiedig Cymdeithas y Pridd yw Treddafydd, ni ddefnyddir cemegau na gwrteithiau artiffisial ar eu cnydau nac yn eu cynnyrch. Maent yn credu'n angerddol mewn tyfu organig, a gallwch flasu'r angerdd hwnnw yn eu jamiau un amrywiaeth, eu ceulion a'u siytni llawn blas. Ar hyn o bryd maent yn cynnig cynllun bocs/bag ffrwythau a llysiau organig - EI DDANFON I BEN LLŶN YN UNIG. Gellir ymestyn hyn os yw'n boblogaidd. Archebwch eich bagiau ffrwythau a llysiau erbyn dydd Llun 11:00am fan bellaf, i'w dosbarthu'n lleol yn unig, o amgylch Pen Llŷn, ddydd Mercher neu ddydd Iau bob wythnos. Gallwch ychwanegu jamiau, wyau, blawd ac ati... i'ch bagiau hefyd! Talebau rhodd ar gael.
Mwynderau
- Talebau rhodd ar gael