Clwb Golff Abersoch
Mae enw da iawn i gwrs golff Abersoch am yr her y mae'n ei ddarparu, y golygfeydd a welir oddi yno, a'r croeso yn y clwb. Wedi'i gysgodi gan Ben Llŷn, yn wynebu Bae Ceredigion a gyda mynyddoedd Eryri yn y cefndir, mae'n lleoliad gwych. Mae'r cwrs ei hun yn gymysgedd o dyllau anodd ar hyd y twyni tywod a'r traeth, gyda set o 5 twll parcdir yn ymestyn i mewn i'r tir. Anaml y bydd y cwrs yn cau ac mae'n bosib golffio ar y cwrs 365 diwrnod y flwyddyn. Mae'r clwb yn gweithredu maes parcio cyhoeddus ar y traeth gyda'r prisiau yn dechrau o £1 yr awr.
Mae'r cyfleusterau bar a bwyty ar agor yn rhad ac am ddim i bobl nad ydynt yn aelodau, ac maent yn gyfleus ar gyfer y traeth a Llwybr Arfordir Cymru. Mae efelychydd golff dan do ar gael i bobl nad ydynt yn aelodau am dâl o £20 yr awr waeth beth yw'r niferoedd sy'n chwarae. Mae'n defnyddio technoleg o'r radd flaenaf i ddyblygu cyrsiau enwog ledled y byd!
Mwynderau
- Parcio
- Siop
- Croesewir grwpiau
- Toiled
- WiFi ar gael
- Pecynnau ar gael
- Caffi/Bwyty