Welsh Lady Preserves
Yn ffactri jam Welsh Lady Preserves ym Mhen Llŷn, mae'r teulu Jones wedi bod yn gwneud cyffeithiau melys a chynfennau sawrus gwobrwyol am 50 mlynedd. Mae eu cynnyrch wedi ennill nifer anhygoel o wobrau am flas ac ansawdd dros y blynyddoedd, gan gynnwys y gwobrau pennaf ‘Supreme Champion’ ar ddau achlysur yn y ‘Great Taste Awards’ a gynhelir gan ‘Guild of Fine Food Retailers’ Maent yn credu’n gryf mewn gwneud cynnyrch bwyd mewn modd traddodiadol gonest, gyda chynhwysion wedi'u dewis yn ofalus, wedi'u paratoi a'u coginio'n ofalus mewn llestri berw agored copr.