Gors-lŵyd Cottage
- 1 Stars
- 2 Stars
- 3 Stars
- 4 Stars
- 5 Stars
Enillydd 2017 am y llety Hunan Arlwyo gorau yng Ngwobrau Twristiaeth Go North Wales ac enillydd Gwobr Hunan Ddarpar Gorau Gogledd Cymru yng Ngwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru 2018, mae bwthyn Gors-lŵyd yn cysgu 4 o bobl ac yn fwthyn traddodiadol 2 lofft gyda chyfleusterau modern, gan gynnwys WiFi ac ystafell chwaraeon. Mae gan y bwthyn erddi mawr gyda golygfeydd ysblennydd o'r mynyddoedd a'r môr. Mae Gors-lŵyd yn safle gwych ar gyfer darganfod treftadaeth unigryw a phrydferthwch Gogledd Cymru. Mae wedi ei leoli ar gyrion Llithfaen, un o bentrefi uchaf Pen Llŷn. Mae'r bwthyn mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac yn cysgodi ar lethrau deheuol Yr Eifl godidog, mynydd uchaf Pen Llŷn.
Mwynderau
- Dillad gwely ar gael
- Gardd
- Mynediad i’r rhyngrwyd
- Ffôn yn yr ystafell/uned
- Peiriant golchi ar y safle
- WiFi ar gael
- Cot ar gael
- Cadair uchel ar gael
- Parcio
- Dim ysmygu o gwbl
- Telerau arbennig i fwrw’r Sul, ganol wythnos neu wyliau byrion ar gael